WQ82778 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2021

Beth yw’r amserlen ar gyfer arolwg sydyn Llywodraeth Cymru ar ginio am ddim a pryd fydd yr arolwg yn cael ei gyhoeddi?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 01/07/2021

Rwyf wedi ymrwymo i adolygu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim pan fydd data newydd ar gael yn ddiweddarach yn yr haf. Byddwn yn cwmpasu’r adolygiad pan fydd gennym y data angenrheidiol ac yna byddwn yn pennu amserlen a dyddiad cyhoeddi.