WQ82764 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/06/2021

Pa asesiadau y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r newidiadau i rwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus Caerdydd ym Mhontcanna, ac yn enwedig gyda chyflwyno lonau bysiau newydd arfaethedig ar hyd Heol Penhill?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 29/06/2021

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu gwerth £972,000 o gyllid ar gyfer cynllun gwella corridor bws ar goridor yr A4119, sy’n cynnwys cyflawni gwelliannau a fydd yn hwyluso cerdded a beicio. 

Mae’r cynllun wedi’i asesu a bernir ei fod yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau a nodir yn Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru. Bydd yn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn fwy deniadol ac yn annog pobl i ddefnyddio llai ar eu ceir preifat.