WQ82709 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/06/2021

Wrth i dystiolaeth newydd ymddangos, beth fu ystyriaethau diweddar Llywodraeth Cymru o ran newid manylebau cyfarpar diogelu personol, gan gynnwys ar gyfer y sector gofal?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 28/06/2021

Nid oes gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth uniongyrchol o ran gosod manylebau ar gyfer cyfarpar diogelu personol (PPE), ond yn hytrach mae’n dilyn cyngor y pedair asiantaeth iechyd y cyhoedd yn y DU, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Drwy gydol y pandemig, mae ystod eang o dystiolaeth ryngwladol ar COVID-19 mewn lleoliadau iechyd a gofal wedi’u hadolygu’n gyson gan gell Atal a Rheoli Heintiau’r DU (IPC), sy’n cynnwys arbenigwyr o Gymru. Mae’r gell yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer asiantaethau iechyd y cyhoedd sy’n cael eu dilyn gan bob un o wledydd y DU.

Diweddarwyd canllawiau’r UK IPC yn fwyaf diweddar ar 1 Mehefin 2021 ac yn awr mae’n nodi os oes risg annerbyniol o drosglwyddo COVID-19 yn dilyn asesiad risg a chymhwyso’r ‘hierarchaeth rheolaethau’ mewn lleoliadau iechyd a gofal, efallai y bydd angen ystyried y defnydd estynedig o gyfarpar diogelu personol ar gyfer gofal mewn sefyllfaoedd penodol.

Mae canllawiau diweddaraf UK IPC yma.