WQ82682 (w) Wedi’i gyflwyno ar 16/06/2021

Pa gynlluniau sydd gan Llywodraeth Cymru i sicrhau fod cymunedau mwy gwledig Cymru yn derbyn cymorth i ddatblygu maesydd 3G ar gyfer chwaraeon?

Wedi'i ateb gan Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip | Wedi'i ateb ar 24/06/2021

Fel y nodir yn y Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon a buddsoddi mewn cyfleusterau newydd, gan gynnwys caeau 3G a chaeau pob tywydd.

Cafodd Grŵp Cyfleusterau Chwaraeon ei greu o dan y Llywodraeth flaenorol a oedd yn cynnwys Chwaraeon Cymru, Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Hoci Cymru ac Undeb Rygbi Cymru. Gwnaethant sefydlu gweledigaeth, model a chanllawiau cenedlaethol ar gyfer datblygu clybiau a chynyddu cyfranogiad drwy sefydlu caeau chwarae mewn lleoliadau priodol a rhai sy’n addas i’w diben ac sy’n addas i bob tywydd, gan gynnwys rhai mewn cymunedau gwledig. Roedd y gwaith yma’n sail i’r broses o ddethol a chyllido prosiectau enghreifftiol mewn ardaloedd â blaenoriaeth. 

Mae gan wahanol chwaraeon a chymunedau wahanol anghenion, sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i gael atebion addas i’w diben. Ym mis Medi 2020 roedd 84 o gaeau 3G maint llawn a 77 o gaeau pob tywydd maint llawn ar gyfer hoci, a hefyd 116 o gaeau pob tywydd nad ydynt yn rhai maint llawn. O blith y rhain, cafodd 9 cae 3G a 2 gae pob tywydd eu cyllido drwy fuddsoddiad gan raglen ‘Lle i Chwaraeon’ Chwaraeon Cymru. Bydd 6 o brosiectau ar gyfer creu caeau pob tywydd (3 cae 3G ac 1 pob tywydd) yn cael eu cwblhau eleni.