WQ82606 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2021

Pryd bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu’r model parhad y gofalwr mewn gwasanaethau mamolaeth ar gyfer merched beichiog sydd wedi colli baban ar ôl beichiogrwydd blaenorol?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 18/06/2021

Gofal Mamolaeth yng Nghymru – Cyhoeddwyd gweledigaeth 5 mlynedd ar gyfer y dyfodol ym mis Gorffennaf 2019, ac mae honno’n cydnabod bod parhad yn nhrefniadau gofalwyr yn creu cyfle i fenywod, a’r sawl sy’n eu cefnogi, feithrin cysylltiadau’n seiliedig ar ymddiriedaeth drwy gyfnod y daith beichiogrwydd at ddod yn rhieni. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn achosion lle mae menyw wedi colli baban yn ystod beichiogrwydd blaenorol.

Mae gan bob bwrdd iechyd drefniadau ar waith i ddarparu cymorth unigol i fenyw drwy feichiogrwydd dilynol, a bydd gan bob menyw fydwraig a enwir. Mae gan bob bwrdd wasanaeth profedigaeth o fewn y gwasanaeth gofal mamolaeth, a gall y gwasanaeth hwnnw ddarparu pecynnau o gymorth unigol penodol i fenywod a’u teuluoedd yn ystod beichiogrwydd dilynol.

Mae gwaith i sicrhau modelau parhad y gofalwr ar gyfer pob menyw a’i theulu yn ystod cyfnod ei beichiogrwydd yng Nghymru wedi parhau i fynd rhagddo drwy gydol y pandemig, a chafodd digwyddiad dysgu ei drefnu gan y Rhwydwaith Mamolaeth a  Newyddenedigol ym mis Ebrill 2021, er mwyn rhannu’r arferion gorau.