Pa ganran o gyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn cael ei neilltuo a'i gwario ar ddulliau ymyrryd naturiol i helpu i leihau’r perygl o lifogydd, ac a ydynt yn cael eu blaenoriaethu dros ddulliau eraill?
Fel rhan o'n maniffesto, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i reoli llifogydd ar sail natur yn nalgylch pob afon fawr er mwyn ehangu cynefinoedd gwlypdir a choetiroedd.
Rheoli llifogydd yn naturiol (NFM) yw un o'r meysydd blaenoriaeth ac mae'r sefyllfa hon wedi'i nodi'n glir yn y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM).
Nid ydym yn cyfyngu ar gyfran y cyfalaf, y gellir ei ddefnyddio at ddibenion NFM ar gyfer cynlluniau rheoli perygl llifogydd a rhaid ystyried dulliau o'r fath ym mhob cynllun. Fel rhan o ganllawiau newydd achos busnes FCERM, rhaid i bob achos busnes ar gyfer cynlluniau a ariennir drwy Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac awdurdodau lleol ystyried NFM fel opsiwn a lle nad yw'n briodol ymgymryd â chynllun NFM neu hybrid rhaid cyfiawnhau'r penderfyniad hwn.
Ym mis Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth ddiwethaf Cymru raglen gwerth £1m ar gyfer cynlluniau NFM i ddarparu cymorth 100% i awdurdodau lleol a CNC ar gyfer y gwaith hwn. Ers hynny mae'r cyllid ar gyfer y rhaglen hon wedi mwy na dyblu gyda mwy na £2.89m wedi'i ddyfarnu ar gyfer 15 cynllun dros ddwy flynedd y rhaglen (Ebrill 2020 i Fawrth 2022).
Mae'r canllawiau NFM a ddarperir ochr yn ochr â ffurflenni cais ar gyfer y rhaglen hon yn nodi'r cymhwysedd i gael cyllid ac yn amodol ar geisiadau sy'n bodloni'r meini prawf hyn, roedd cyllid ar gael.
Dros y rhaglen NFM ddwy flynedd (2019-22), rydym wedi dyrannu £419,000 i CNC i ddatblygu pedwar cynllun ledled Cymru. Mae hyn yn unol â chyllidebau cyfalaf o £13.533m (2020-21) a £17.211m (2021-22).
Bydd CNC hefyd yn buddsoddi rhywfaint o'i gyllid refeniw blynyddol yn y gwaith hwn, gan gynnwys ymchwil, a bydd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar draws meysydd polisi ehangach i ymgorffori'r gwaith o ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur, gan gynnwys mesurau i fynd i'r afael â llifogydd drwy reoli dŵr yn gynaliadwy ar draws polisïau, rhaglenni a chynlluniau ehangach.
Mae cyllid cyfalaf ar gyfer cynlluniau NFM ar gael ar gyfer pob cynllun llifogydd newydd a bydd yn parhau i gael ei annog ar ôl i'r rhaglen NFM ddwy flynedd ddod i ben. Caiff y cynlluniau hyn eu hystyried a'u blaenoriaethu ochr yn ochr â phob cynllun arall, yn seiliedig ar feini prawf sgorio y cytunwyd arnynt, sy'n ystyried risg, llifogydd yn y gorffennol, manteision a chostau.