WQ82597 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2021

Beth yw'r newyddion diweddaraf ynghylch prosiect twnel y Rhondda, ac ydy Llywodraeth Cymru yn parhau yn gefnogol i'r prosiect?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 17/06/2021

Rydym yn gwbl gefnogol i'r prosiect ac yn awyddus i’w weld yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth. Rydym wedi bod wrthi'n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Cymdeithas Twnnel y Rhondda a chynghorau Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf i ddod o hyd i ffordd gynaliadwy ymlaen ar gyfer y prosiect hwn. 

Mae cynnydd mawr wedi’i wneud o ran y trafodaethau gyda'r Adran Drafnidiaeth ar drosglwyddo twnelau Rhondda ac Aber-nant. Gellid cwblhau'r broses gyfreithiol o drosglwyddo perchnogaeth ymhen ychydig wythnosau.

Unwaith y bydd ffigurau pendant ar gyfer costau cyfalaf a refeniw'r prosiect, gellir bod yn hyderus am gyflwyno ceisiadau i gyrff ariannu, megis Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

O gofio bod yr amcangyfrif ar gyfer y costau cyfalaf yn unig mor uchel â £17m ar hyn o bryd, sy'n sylweddol uwch na lefel unrhyw ddyfarniad blaenorol a wnaed gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, bydd yn heriol dros ben, ond bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi ceisiadau.

Ar hyn o bryd, Llywodraeth y DU sy'n atebol am y twnnel, sy’n rhan o'r seilwaith  cysylltiedig â hen reilffyrdd y mae wedi’i etifeddu. Rydym am ei gweld yn ei drosglwyddo i bartneriaeth, ond mae'r taliad gwaddoli o £60,000 y mae'n fodlon ei drosglwyddo ar hyn o bryd yn gwbl annigonol. Byddwn yn parhau i weithio gyda hi i gytuno ar drosglwyddo swm sydd nid yn unig yn cydnabod y gost o gadw'r twnnel yn ei gyflwr presennol ond hefyd y costau a fydd yn gysylltiedig â’i ei agor er budd y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu