WQ82594 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/06/2021

Yn sgil y ffaith fod Llywodraeth y DU wedi dweud wrth feddygon teulu yn Lloegr i drosglwyddo data cleifion i NHS Digital, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau fod hyn ddim yn mynd i ddigwydd yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 16/06/2021

Fe gyhoeddais Ddatganiad Gweinidogol yr wythnos diwethaf yn amlinellu ein safbwynt o ran rhannu gwybodaeth cleifion yng Nghymru. Ni fydd angen i feddygon teulu yng Nghymru drosglwyddo data cleifion i NHS Digital. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i wella sut rydym yn defnyddio data iechyd a gofal yng Nghymru a byddwn yn gweithio gyda’r proffesiwn gofal iechyd, cleifion a’r cyhoedd wrth inni ddatblygu ein cynigion ymhellach.