WQ82529 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/06/2021

Beth ydy cynlluniau ac amserlen Llywodraeth Cymru i werthuso cynllun diweddaraf Arbed?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 09/06/2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Miller Research Ltd i werthuso Cynllun Arbed y Rhaglen Cartrefi Clyd. Mae’r gwerthusiad yn asesu perfformiad yn erbyn mewnbynnau penodol a chyflawniad amcanion cyflawni. Dyfarnwyd y contract ym mis Ebrill 2020 a dechreuodd y gwaith maes ym mis Medi 2020. Disgwylir yr adroddiad terfynol erbyn diwedd mis Awst 2021 a bydd yn cael ei gyhoeddi ar ôl i’r canfyddiadau gael eu hystyried. Mae adroddiad ychwanegol ar y cynllun yn dilyn yr adolygiad a gynhelir ar hyn o bryd gan Archwilio Cymru i’w ddisgwyl yn yr haf.