Pa gymorth ychwanegol fydd ar gael i asiantaethau teithio, yn dilyn y cwymp yn eu busnes yn sgil COVID-19 , yn enwedig wrth ystyried bod Llywodraeth Cymru yn annog i bawb gymryd eu gwyliau adref?
Mae rownd ddiweddaraf ein Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) wedi'i thargedu'n benodol at fusnesau sy'n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau Covid-19. Bydd y Fframwaith yn darparu grantiau argyfwng a phontio o hyd at £25k i fusnesau cymwys i helpu i dalu eu costau gweithredu am y cyfnod rhwng 1 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021.
Dylai busnesau cadwyn gyflenwi, gan gynnwys asiantaethau teithio, sy'n colli trosiant o 60% oherwydd marchnadoedd caeedig ystyried cais i ERF. Byddwn yn annog asiantaethau teithio i edrych ar y gwiriwr cymhwysedd yn erbyn eu hamgylchiadau penodol. https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy
Mae ymgeiswyr wedi gallu gwneud cais i'r ERF ers 24 Mai a bydd y cyfnod ymgeisio yn aros ar agor am bythefnos tan 7 Mehefin am 5pm ar gyfer elfen Llywodraeth Cymru.
Efallai yr hoffech nodi ein bod hefyd wedi cyhoeddi £270m yn ychwanegol ar gyfer Cronfa Buddsoddi Hyblyg Banc Datblygu Cymru ar 23 Chwefror. Mae hyn yn golygu y bydd mwy na £500 miliwn ar gael drwy'r gronfa hyd at 2030 i gefnogi llwyddiant a thwf hirdymor ein cwmnïau, gan greu a diogelu miloedd o swyddi yng Nghymru yn eu tro.
https://developmentbank.wales/cy
Gan edrych tua'r dyfodol, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu opsiynau ar gyfer pecynnau cymorth ariannu pellach i helpu busnesau i ddatblygu a thyfu'n gynaliadwy ac yn gyfrifol. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi ar wefan Busnes Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf.