Beth oedd cyfanswm y gwariant, cyfalaf a refeniw, gan y Comisiwn ar swyddfeydd a feddiannwyd gan drydydd partïon ar ystâd y Senedd ym mhob un o'r pum mlynedd diwethaf?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 14/06/2021
Mae'r Comisiwn yn is-osod swyddfeydd i'r BBC ac ITV. Am y cyfnod dan sylw, nid yw'r Comisiwn wedi gwario dim ar y swyddfeydd hyn ac mae cost unrhyw waith adnewyddu wedi cael ei thalu gan y trydydd parti.