WQ82514 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/05/2021

Beth oedd cyfanswm y gwariant, yn gyfalaf ac yn refeniw, gan y Comisiwn ar swyddfeydd a feddiannwyd gan Lywodraeth Cymru ar ystâd y Senedd ym mhob un o'r pum mlynedd diwethaf?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 14/06/2021

Nid yw'r Comisiwn yn gyfrifol am ariannu newidiadau na gwelliannau i lety ar y lloriau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru.

Cytunwyd ar is-les y pumed llawr a hanner yr ail lawr â Llywodraeth Cymru yn 2010. Fel rhan o'r cytundeb fe benderfynwyd na fyddai'r Comisiwn yn gweithredu trefn codi tâl ar gyfer y lleoedd a'r gwasanaethau yn Nhŷ Hywel y mae’r Llywodraeth yn eu defnyddio, gan y byddai gwneud hynny yn golygu gorfod creu a gweinyddu prosesau ar gyfer trosglwyddo arian oddi wrth y Llywodraeth i'r Comisiwn. Yn lle hynny, mae'r gyllideb ar gyfer y rhent a’r taliadau gwasanaethau yn Nhŷ Hywel wedi cael ei chynnwys yng nghyllideb weithredol y Comisiwn, sy’n dod o Floc Cymru, wrth gwrs.