Beth oedd cyfanswm yr incwm a gafwyd gan drydydd partïon ar gyfer defnyddio ystâd y Senedd ym mhob blwyddyn ariannol o fis Mai 2016/17 hyd yma?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 14/06/2021
Mae’r incwm a geir gan drydydd partïon ar gyfer defnyddio'r ystâd yn dod oddi wrth y BBC ac ITV, sy'n defnyddio swyddfeydd ar sail is-les yn Nhŷ Hywel. Mae'r incwm fesul blwyddyn ariannol fel a ganlyn:
Blwyddyn |
Swm |
2016-17 |
£58,209 |
2017-18 |
£58,209 |
2018-19 |
£58,209 |
2019-20 |
£58,209 |
2020-21 |
£58,209 |
Yn 2019 fe gafodd y Comisiwn £15,934 gan Urban Myth Films i dalu costau defnyddio ystâd y Senedd ar gyfer ffilmio War of the Worlds. Mae’r swm yn cynnwys costau heddlu a diogelwch, goramser staff a deunyddiau i amddiffyn adeiladwaith.