WQ82503 (w) Wedi’i gyflwyno ar 26/05/2021

Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru am ei roi i'r sector gweithgareddau awyr agored yn sgil COVID-19, yn enwedig gan eu bod yn rhan o'r sector addysg ond yn cael eu gweld fel rhan o'r sector lletygarwch ac felly nid ydynt wedi derbyn yr un lefel o gymorth a sectorau eraill?

Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Economi | Wedi'i ateb ar 04/06/2021

Rydym wedi gwrando'n astud ar bryderon y sector ac o ganlyniad mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cronfa i gefnogi'r sector addysg awyr agored preswyl gyda dyraniad cychwynnol o £2m. Bydd y gronfa hon yn rhoi cymorth i ganolfannau cymwys dalu costau gweithredu hanfodol yn ystod y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi 2021. Bydd gan y gronfa uchafswm grant wedi'i gapio o £45 mil i bob ymgeisydd llwyddiannus. Daw y cyfle i fynegi diddordeb mewn gwneud cais am gymorth gan y Gronfa i ben ar 4 Mehefin. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Busnes Cymru:

https://fundchecker.businesswales.gov.wales/residential/cy