Yn dilyn cyflwyno yr Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Cymru) 2021, pa astudiaethau y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud i effaith amgylcheddol adeiladu storfeydd a tanciau storio slyri ar bob fferm?
Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn cyfuno gofynion storio slyri, sydd wedi bod yn ofyniad rheoliadol ers 1991, gan leihau cymhlethdod rheoleiddiol a rhoi mwy o sicrwydd. Nid oes angen storio slyri ar bob fferm ac mae llawer eisoes yn rhagori ar ofynion y rheoliadau.
Gan fod yn rhaid storio glawiad halogedig ac fel arfer mae'n gyfran sylweddol o'r slyri y mae fferm yn ei gynhyrchu, mewn llawer o achosion lle y gellir mynd i'r afael â diffygion storio drwy wahanu dŵr glân a budr a rheoli’r buarth yn well.
Bu i’r Asesiad o Effaith Rheoleiddiol y rheoliadau asesu yr effaith bosibl ar yr amgylchedd ac mae'n dangos manteision i'r amgylchedd o golli llai o nitradau, ffosfforws, amonia ac ocsid nitraidd. Mae lleihau colledion y llygryddion hyn i'r amgylchedd yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â'n hargyfyngau hinsawdd a natur.