A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw ymwneud y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gael neu unrhyw gefnogaeth y mae wedi’i rhoi, yn ariannol neu fel arall, yn nhrefniadau Gŵyl y Gelli?
Yn 2020-21, ymrwymodd Croeso Cymru i gytundeb nawdd dwy flynedd gyda Gŵyl y Gelli ac ariannodd Cyngor Celfyddydau Cymru dri phrosiect Gŵyl y Gelli. Roedd yr ŵyl hefyd yn gymwys i gael cymorth gan y Gronfa Cadernid Economaidd.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo diwylliant a thalent Cymru ac yn adlewyrchu hyn drwy ei rhaglenni marchnata Cymru, gan amlygu'r rôl bwysig sydd gan wyliau wrth adlewyrchu diwylliant amrywiol ein gwlad.
Mae penderfyniadau nawdd Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar nifer o ffactorau. Yn benodol, ar gyfer nawdd brand Cymru Wales, rhaid i wyliau a digwyddiadau ddangos sut y byddai'r buddsoddiad yn ychwanegu gwerth at amcanion brand Cymru Wales, i arddangos diwylliant amrywiol Cymru i'r byd. Gallai hyn gynnwys mesurau fel cryfder cysylltiadau gŵyl a lefel y proffil yn y DU a marchnadoedd rhyngwladol, a nifer yr ymwelwyr y mae'r digwyddiad yn eu denu o'r tu allan i Gymru. Byddai ystyriaeth bellach yn cynnwys ansawdd y cyfle a gynigir i gael mynediad at artistiaid a pherfformwyr proffil uchel i gydweithio ar gynnwys, yn ogystal â rhaglenni cysylltiadau cyhoeddus a marchnata ar y cyd i godi proffil Cymru a chreu twristiaeth ychwanegol.
Rhoddir ystyriaeth hefyd i werth am arian i sicrhau bod unrhyw nawdd brand Cymru Wales yn dangos elw clir ar fuddsoddiad a'i fod yn gystadleuol o'i gymharu â noddwyr eraill.