A yw’r Gweinidog yn ymwybodol o unrhyw gynlluniau i gau uned orthopaedig Ysbyty Gwynedd yn barhaol?
Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 02/06/2021
Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gynlluniau i gau'r uned orthopedig yn Ysbyty Gwynedd.
Mae gweithgarwch orthopedig ar gyfer achosion dydd wedi dechrau yr wythnos hon a bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ailddechrau gweithgarwch cleifion mewnol ymhen pythefnos
Mae'r sefydliad hefyd yn ystyried caffael theatr orthopedig fodiwlaidd a ward fodiwlaidd i gleifion mewnol i gefnogi rhagor ar y gweithgarwch orthopedig yn y safle.