WQ82425 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2021

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar amserlen a chamau nesaf y broses o ran y gwaith sydd ar y gweill i ddiwygio ffiniau llywodraeth leol?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar 24/05/2021

Byddaf yn ystyried argymhellion yr adolygiadau etholiadol terfynol ar gyfer prif gynghorau a gyflwynwyd gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ynghyd ag unrhyw sylwadau a dderbyniwyd maes o law. Caiff unrhyw Orchmynion a fydd yn deillio o’r ystyriaethau hyn eu gwneud erbyn diwedd mis Medi. Bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol i roi trefniadau priodol ar waith ar gyfer yr etholiadau Llywodraeth Leol a gynhelir ym mis Mai 2022. 

Rwy’n gwerthfawrogi bod gan yr aelodau, awdurdodau lleol yn ogystal â darpar ymgeiswyr ac ymgeiswyr presennol ddiddordeb yn yr adolygiadau hyn a bwriadaf ddarparu diweddariadau rheolaidd i’r aelodau am y cynnydd a wneir.