A wnaiff y Prif Weinidog restru'r pwerau newydd y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld yn cael eu datganoli o San Steffan i Gymru yn ystod tymor y chweched Senedd?
Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 26/05/2021
Yn ein dogfen "Diwygio ein Undeb" a gyhoeddwyd yn 2019, rydym yn nodi ein safbwynt y dylai pwerau'r sefydliadau datganoledig fod yn seiliedig ar set gydlynol o gyfrifoldebau sy’n cael eu dyrannu yn unol ag egwyddor sybsidiaredd. Mae hyn yn golygu y dylid dyrannu cyfrifoldebau deddfwriaethol a llywodraethol i'r lefel fwyaf lleol y mae modd iddynt gael eu cyflawni'n effeithlon ac yn effeithiol arni.
Byddwn yn cyhoeddi fersiwn wedi'i diweddaru o'r ddogfen honno cyn hir.