WQ82411 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/05/2021

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynghylch sut i wella addysg iaith Gymraeg yn y sir?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 25/05/2021

Mae fy swyddogion mewn cyswllt cyson gydag awdurdod addysg Sir Pen-y-bont ar Ogwr i drafod eu cynlluniau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, a hynny o fewn cyd-destun eu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSCA).

Mae’r trafodaethau hynny yn digwydd trwy Gyfarwyddwr Addysg y sir, ei swyddogion ac hefyd drwy gyfrwng y Fforwm Addysg Gymraeg a gynhelir unwaith y tymor dan arweiniad yr awdurdod. Yn ystod 2019, hwylusodd fy swyddogion gefnogaeth i’r sir gan gynllunwyr addysg Gymraeg yn ogystal.

Yn dilyn adolygiad o gynllunio addysg Gymraeg gan awdurdodau lleol yn 2017, cyflwynwyd is-ddeddfwriaeth newydd ar gyfer y CSCA yn 2019 gan alinio ein disgwyliadau ni ar gyfer cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg gyda’n targed uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Does gen i ddim amheuaeth mai trwy yrru’r cyfran o ddysgwyr sy’n cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg -  ac felly y cyfle i fod yn siaradwyr dwyieithog – y gallwn ni gyrraedd y darged honno. 

Ers dechrau’r flwyddyn hon, mae fy swyddogion wedi cyfarfod gyda Chyfarwyddwyr Addysg pob awdurdod lleol, gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, i drafod eu gweledigaeth ar gyfer datblygiad a thwf addysg Gymraeg yn eu hardaloedd yn unol a’n disgwyliadau newydd. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rydym wedi gosod yr her iddynt gynyddu’r cyfran o ddysgwyr blwyddyn 1 sydd mewn addysg Gymraeg o oddeutu 8% fel y mae hi nawr i rhwng 14% - 18% erbyn 2031/2. Mae’r sir eisoes wedi dechrau ymateb yn gadarnhaol i’r her hynny gyda chynlluniau cyffroes  ar y gorwel i ddatblygu darpariaeth mewn sawl ardal allweddol, megis Porthcawl. Fel nifer o awdurdodau lleol ar hyn o bryd, mae swyddogion addysg Pen-y-bont ar Ogwr yn cyd-gynllunio a thrafod eu CSCA newydd gyda’u Fforwm Addysg Gymraeg, sy’n cynnwys cynrychiolaeth gan rhan-ddeiliaid addysg a iaith.

Wedi dweud hynny, rwy’n ymwybodol bod sefyllfa wedi codi yn ddiweddar ble mae teuluoedd wedi methu cael lle i’w plentyn yn eu dewis ysgol Gymraeg, yn yr achos hon, Ysgol Bro Ogwr. Yn dilyn trafodaeth rhwng fy swyddogion a swyddogion y sir ar y mater hwn, rwyf wedi cael fy argyhoeddi bod gan y sir datrysiad i fynd i’r afael â’r sefyllfa, gyda chynlluniau i ehangu darpariaeth addysg Gymraeg yn ardal Pencoed eisoes ar waith drwy gefnogaeth cyfalaf ein rhaglen ysgolion unfed ganrif ar hugain. Serch hynny, nid yw hynny o gymorth i’r teuluoedd hynny a gyfeirir atynt uchod wnaeth ddewis addysg cyfrwng Cymraeg fel eu dewis ysgol cyntaf, ac sydd wedi cael eu siomi. O’r herwydd, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gyfarfod unwaith eto gyda Chyfarwyddwr addysg i drafod.