WQ82405 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/05/2021

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau fod Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd yn ymgynghorydd statudol ar gyfer deddfwriaeth safonau SDCau (systemau draenio cynaliadwy) statudol 2019, yn methu ymateb i geisiadau oherwydd diffyg adnoddau i wneud hynny?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 26/05/2021

Cydweithiodd Llywodraeth Cymru yn agos â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i ddatblygu'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau mewn perthynas â phroses ymgeisio’r SDCau. Mae statws ymgynghorai statudol CNC yn adlewyrchu ei gyfrifoldebau rheoleiddiol sy'n bodoli eisoes, fel y rhai sy'n ymwneud â cheisiadau cynllunio.  Disgwylir i adolygiad gan Lywodraeth Cymru o SDCau ddechrau eleni a bydd yn cynnwys ystyried yr effeithiau rheoleiddiol ar CNC a'i rôl yn y broses.  Mae fy swyddogion yn parhau i gydweithio â CNC i helpu i sicrhau bod y swyddogaeth statudol hon yn cael ei chyflawni'n effeithiol.