WQ82402 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/05/2021

Faint o gyllid a dderbyniodd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer lliniaru llifogydd yn 2016-17, 2017-18, 2018-19, 2019-20, 2020-21 a 2021-22 a faint a wariwyd ganddo bob blwyddyn ar hyn?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 26/05/2021

Nodir dyraniadau dechrau'r flwyddyn a thynnu i lawr ar ddiwedd y flwyddyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer rheoli perygl llifogydd isod:

Blwyddyn Ariannol

Dyraniad ar ddechrau’r flwyddyn

Cyfanswm y gwariant blynyddol (Tynnu i lawr)

 

Cyfalaf

Refeniw

CYFANSWM

Cyfalaf

Refeniw

2016-17

£9.5m

£18.5m

£28m

£13.4m

£20.61m

2017-18

£16.3m

£18.25m

£34.55m

£19.53m

£18.68m

2018-19

£20.1m

£19.75m

£39.85m

£17.34m

£21.9m

2019-20

£12.7m

£19.75m

£32.45m

£5.74m

£19.8m

2020-21

£9.23m

£21m

£30.23m

£12.93m

£21m

2021-22

£17.21m

£21m

£38.21m

 

 


Mae dyraniadau cyfalaf i CNC yn seiliedig ar ei raglen flynyddol sy'n amrywio o flwyddyn i flwyddyn gan ddibynnu ar nifer y cynlluniau mawr sy'n cael eu dwyn ymlaen, y mae llawer ohonynt yn cael eu darparu dros nifer o flynyddoedd. Mae rhaglen llifogydd cyfalaf Llywodraeth Cymru yn cynnwys cynlluniau a gyflwynir gan CNC ac Awdurdodau Lleol sy'n cael eu hasesu yn erbyn ffactorau gwahanol i gynhyrchu rhaglen flynyddol wedi'i blaenoriaethu.  Mae cynigion y cynlluniau yn cael eu blaenoriaethu yn ôl y dystiolaeth ddiweddaraf o ran y risg i gymunedau, llifogydd blaenorol, gwerth am arian yn ogystal â nifer yr eiddo sy'n elwa o'r cynllun arfaethedig.  O ganlyniad, mae rhywfaint o amrywiadau o flwyddyn i flwyddyn mewn dyraniadau cyfalaf blynyddol i CNC ac Awdurdodau Lleol.