WQ82401 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/05/2021

Faint o bobl oedd yn cael eu cyflogi gan Cyfoeth Naturiol Cymru a oedd gyda cyfrifoldeb am fodelu a lliniaru llifogydd cyn y llifogydd ym mis Chwefror 2020, a faint sy'n cael eu cyflogi erbyn hyn?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 26/05/2021

Mae nifer y staff a gyflogir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n gyfrifol am reoli perygl llifogydd fel a ganlyn:

·         Cyn llifogydd mis Chwefror 2020: 304.2 cyfwerth ag amser llawn

·         Ar hyn o bryd: 345 cyfwerth ag amser llawn

Mae llawer o dimau CNC, yn ogystal â chyflawni ei swyddogaethau a'i wasanaethau, wedi'u hintegreiddio. Fodd bynnag, ym mis Chwefror 2020, roedd gan CNC 350 o swyddi gyda chyfrifoldebau rheoli perygl llifogydd. Ym mis Mai 2021, mae'r ffigur hwn wedi codi i 393 o swyddi. Mae'r ffigurau yn y bwledi uchod yn adlewyrchu niferoedd y staff cyfwerth ag amser llawn sy'n gweithio ar weithgareddau rheoli perygl llifogydd yn unig.

CNC sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu gwybodaeth fanwl am staffio a defnydd gweithredol. Gellir gofyn am ragor o fanylion drwy ysgrifennu'n uniongyrchol at Gadeirydd neu Brif Weithredwr CNC.