WQ82330 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2021

Pryd fydd profion COVID-19 rheolaidd ar gael i weithwyr sy’n darparu gwasanaethau i unigolion sy’n derbyn taliadau uniongyrchol?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 29/03/2021

Cyhoeddais ddatganiad ar 22 Mawrth ynglŷn â chynlluniau i alluogi pobl na allant gael mynediad at brofion yn y gweithle, ac na allant weithio o gartref, i gael mynediad at brofion llif unffordd rheolaidd y maent yn gallu eu gwneud eu hunain. Bydd hynny’n golygu datblygu nifer o sianeli gwahanol, gan gynnwys modelau casglu ac uniongyrchol ar gyfer darparu’r profion. Bydd y rhain ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf.