WQ82306 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2021

A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei hymateb i'r colledion dysgu sylweddol y mae plant a phobl ifanc wedi'u ddioddef o ganlyniad i'r pandemig?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg | Wedi'i ateb ar 26/03/2021

Rwy’n cydnabod yr effaith y mae’r pandemig wedi’i gael, a’r effaith y mae’n parhau i gael, ar ddysgwyr. Mae wedi effeithio ar ddysgwyr mewn ffyrdd gwahanol – yn enwedig eu cynnydd addysgol a’u hiechyd a’u lles corfforol a meddyliol. Mae ystod y profiadau hyn yn golygu bod rhaid i ni alluogi’r ysgolion a’u hathrawon i gefnogi eu dysgwyr i ddatblygu ar eu llwybrau dysgu eu hunain, wrth iddynt ddychwelyd at ddysgu wyneb yn wyneb. 

Ar 8 Mawrth, cyhoeddais £72 miliwn o gyllid ychwanegol i gefnogi ysgolion a dysgwyr wrth iddynt barhau i ddychwelyd at ddysgu wyneb yn wyneb. Mae hyn yn cynnwys cyllid i Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau yn yr hydref, cefnogaeth ychwanegol i athrawon dan hyfforddiant a hyfforddiant wedi’i dargedu ar gyfer ysgolion, dysgwyr y blynyddoedd cynnar, dysgwyr o dan anfantais a’r rheini sydd ym mlynyddoedd 11, 12 a 13 i gefnogi dysgwyr wrth iddynt symud ymlaen i’w camau nesaf. Mae hyn yn golygu bod y cyllid fesul disgybl yng Nghymru yn fwy na £239, yr uchaf yn y Deyrnas Unedig.

Rwyf hefyd yn cydnabod bod ein dysgwyr mwyaf difreintiedig yn teimlo effaith COVID-19 yn ddifrifol. Rwy’n falch o gael cadarnhau y bydd ymgodiad sylweddol yn y cyllid ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, sy’n golygu y bydd y cyllid ar gyfer or 2021-22 yn cyrraedd dros £110 miliwn. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn cael cefnogaeth i lwyddo hyd orau eu gallu wrth iddynt ymgynefino unwaith eto â bywyd yn yr ysgol.

Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu cymorth ychwanegol i’r Grant Datblygu Ysgolion- Mynediad, gyda chyllid o fwy na £10m y flwyddyn nesaf. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn caniatáu i ni gefnogi mwy o deuluoedd sy’n teimlo effaith y pandemig gan estyn at grwpiau blwyddyn eraill.

Byddwn yn parhau i gydweithio â phartneriaid er mwyn datblygu pecyn o fesurau priodol ac effeithiol i gefnogi ein dysgwyr wrth symud i’r cam nesaf, ac yn nodi hyn yn ein cynllun Symud Ymlaen â’r Dysgu 2021. Ar hyn o bryd, mae pob trafodaeth yn bosibl, ac rydym yn barod i ystyried unrhyw opsiwn i gefnogi ein dysgwyr. Rydym yn ymgysylltu’n eang er mwyn datblygu ein dull gweithredu ar y cyd, gan gynnal trafodaethau gydol mis Mawrth gyda golwg ar gasglu cynigion ynghyd ym mis Ebrill. Ar ôl yr etholiad ym mis Mai, mater i’r llywodraeth newydd fydd penderfynu ar y camau nesaf.