WQ82276 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/03/2021

Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda busnesau sydd heb dderbyn y cymorth ariannol llawn sydd ar gael, neu ddim o gwbl, oherwydd nad ydynt yn cwrdd â'r amodau angenrheidiol, er mwyn trafod sut y gallai eu cefnogi yn ystod y cyfyngiadau a ffynnu ar ôl hynny?

Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru | Wedi'i ateb ar 26/03/2021

Drwy gydol y pandemig, rwyf wedi cael trafodaethau helaeth a rheolaidd gyda sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau, gan gynnwys trafodaethau bord gron gyda'r sectorau modurol, awyrofod, gweithgynhyrchu, cludo nwyddau, cyfrifo a bancio. Roedd y cyfarfod diweddaraf gyda sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau ar 18 Mawrth.

Yr wyf hefyd wedi cwrdd â manwerthwyr mawr, gan gynnwys y rheini nad ydynt yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes.

Mae'r Gweinidog dros Iechyd Meddwl, Lles a'r Gymraeg, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a minnau hefyd yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r sectorau twristiaeth a lletygarwch i drafod y pandemig, y cyfyngiadau a chymorth i fusnesau.

Cyfarfu'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ag Excluded UK ar 17 Rhagfyr. Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ymateb a bod yn gyfrifol o ran cefnogi'r rhai sy'n syrthio drwy fylchau cynlluniau cymorth y DU.

Ysgrifennodd y Gweinidog Cyllid a mi at y Canghellor ar 19 Ionawr yn ei annog i roi sicrwydd ac eglurder pellach i fusnesau ac unigolion drwy sicrhau y bydd cymorth pellach ar gael ac na fydd cynlluniau presennol yn cael eu tynnu'n ôl cyn i'r economi fod yn barod.

Mae pecyn cymorth cynhwysfawr Llywodraeth Cymru wedi'i gynllunio i fod yn fforddiadwy o fewn y cyllid sydd ar gael gennym. Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau Cymru drwy'r cyfnod hynod anodd hwn.

Ar 23 Chwefror, cyhoeddwyd £270m yn ychwanegol ar gyfer Cronfa Buddsoddi Hyblyg Banc Datblygu Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd mwy na £500m ar gael drwy'r gronfa, hyd at 2030, i gefnogi llwyddiant a thwf hirdymor cwmnïau yng Nghymru, gan helpu i greu a diogelu miloedd o swyddi yng Nghymru.  https://developmentbank.wales/cy