WQ82161 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/02/2021

Faint o swyddi gwag sydd yna yn GIG Cymru ar hyn o bryd?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 09/03/2021

Mae ymddiriedolaethau a byrddau iechyd yn rheoli eu gweithlu gan recriwtio’n rheolaidd pan fydd swyddi gwag yn codi. Nid yw casglu a chyhoeddi data ar swyddi gwag yn unig yn rhoi darlun o’r sefyllfa ddeinamig wirioneddol ar lawr gwlad.

Er hynny, rydym yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a phartneriaid eraill i wella’r ffordd y caiff data eu casglu ar draws ystod o fetrigau’r gweithlu. Cytunodd grŵp gorchwyl a gorffen, a oedd yn cynnwys AaGIC, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Llywodraeth Cymru ar ddull gweithredu i gasglu gwybodaeth am swyddi gwag yn rheolaidd, gyda’r bwriad o gyhoeddi datganiad ystadegol rheolaidd ar StatsCymru i ddechrau ym mis Ebrill 2020. Fodd bynnag, cafodd ei ohirio wrth i adnoddau gael eu defnyddio ar gyfer gwaith blaenoriaeth COVID-19. Mae fy swyddogion yn ystyried pryd y dylid ail-ddechrau ar y gwaith hwn yng ngoleuni blaenoriaethau brys eraill.

Mae nifer y meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy’n gweithio yn y GIG yng Nghymru ar y lefelau uchaf erioed.