WQ81940 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2021

Pa dystiolaeth sy'n sail i ddatganiad y Gweinidog na ddylai hanes Cymru fod yn statudol ar wyneb Bil y Cwricwlwm ac Asesu?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg | Wedi'i ateb ar 26/01/2021

Mae hanes Cymru yn orfodol yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, am resymau da ac ar sail tystiolaeth a nodir yn Dyfodol Llwyddiannus.

Nid yw fframwaith arfaethedig Cwricwlwm i Gymru yn nodi rhaglen benodol i’w dilyn, a’r amcan yw sicrhau bod pynciau fel hanes Cymru yn nodwedd ym mhob rhan o’r cwricwlwm. Rydym yn galluogi ysgolion a lleoliadau i ddatblygu dull gweithredu sy’n briodol i’w dysgwyr a’u cymunedau nhw.

Serch hynny, mae yna faterion rydym yn eu hystyried yn arbennig o bwysig ac maent yn orfodol yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Mae yna ystod ohonynt sy’n adlewyrchu ac yn sicrhau cysondeb ar draws ysgolion a dysgwyr, ond rydym yn cynnig hyblygrwydd i ysgolion o ran sut i gydgysylltu’r rhain â’i gilydd a’u cyflwyno.

O fewn y dyniaethau, mae’r datganiadau statudol o’r hyn sy’n bwysig yn golygu bod yn rhaid i gwricwlwm pob ysgol gynnwys:

  • Ymwybyddiaeth gyson o stori leol y dysgwyr a stori Cymru
  • Dealltwriaeth feirniadol o sut mae cymdeithasau wedi cael eu trefnu, eu strwythuro a’u harwain, yn lleol ac yng Nghymru
  • Gallu mynd i’r afael â heriau a chyfleoedd y gorffennol, y presennol a’r dyfodol sy’n wynebu’r dysgwyr, eu cymunedau a Chymru
  • Ennyn mewn dysgwyr ymdeimlad o le ac o berthyn, fel sy’n cael ei ymgorffori yn y gair cynefin
  • Gwerthfawrogi hunaniaeth, treftadaeth a chynefin.

Sonnir am bedwar maes ar wyneb y Bil am resymau penodol. Nid yw hyn yn tanseilio statws elfennau gorfodol y cwricwlwm, ond yn diogelu rhag creu rhaglen rhy fanwl.

Rwyf wedi’i gwneud yn glir bob amser y byddai ychwanegu at y pedwar maes yn tanseilio athroniaeth y cwricwlwm newydd – bydd cod yr hyn sy’n bwysig yn sicrhau bod yr holl elfennau dysgu hanfodol, gan gynnwys cysyniadau allweddol astudiaethau hanes yn orfodol.