WQ81938 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2021

Beth yw’r broses ar gyfer adnabod swp o frechlynau sydd yn methu cael eu defnyddio oherwydd diffyg safon; sawl o rhain oedd wedi’u clustnodi i Gymru sydd heb gael eu defnyddio; ac oes rhai yn cael eu darparu yn eu lle?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 27/01/2021

Fel y dywedir ar wefan Llywodraeth y DU, bydd ansawdd pob swp o unrhyw frechlyn COVID-19 yn cael ei asesu gan labordy annibynnol. Bydd y labordy annibynnol hefyd yn cynnal adolygiad manwl o ddogfennaeth gwneuthurwr y swp, gan fod honno’n disgrifio proses gynhyrchu’r cwmni, a’r broses brofi y mae’n ei defnyddio i reoli ansawdd.

Yn y DU, mae’r gwaith profi annibynnol hwn yn cael ei gyflawni gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Safonau a Rheoli Biolegol, sef canolfan arbenigol sy’n rhan o’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd.

Cyn y ceir rhyddhau unrhyw swp ar gyfer ei ddefnyddio, bydd y Sefydliad yn rhoi tystysgrif i gadarnhau bod y profion annibynnol wedi cael eu cwblhau, a bod y swp yn cydymffurfio â’r manylebau perthnasol ar gyfer y cynnyrch.

Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod swp newydd yn cael ei ddarparu yn lle unrhyw swp na ellir ei ddefnyddio am resymau ansawdd sydd y tu hwnt i’n rheolaeth, a bod hynny’n digwydd mewn modd amserol a diogel.