WQ81915 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/01/2021

Ar sail yr asesiadau diweddaraf, faint o arian yn weddill y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl ei chael yn ei chyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd | Wedi'i ateb ar 26/01/2021

Roedd yr ail gyllideb atodol ar gyfer 2020-21, a gyhoeddwyd fis Hydref, yn manylu ar gyfanswm cyllido Cymru sef £24.9bn. Mae £19.9bn o’r cyfanswm hwnnw’n ymwneud ag arian cyllidol y Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) a ddarperir drwy Grant Bloc Cymru.

Bydd cyfanswm cyllid grant bloc 2020-21 yn cael ei gadarnhau yn Amcangyfrifon Atodol y DU y mae disgwyl i Lywodraeth y DU eu cyhoeddi yn gynnar ym mis Chwefror. Yna, bydd sefyllfa cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn cael ei hamlinellu yn y drydedd gyllideb atodol a gyhoeddir ar 9 Chwefror.

Ein hamcangyfrifon diweddaraf yw y bydd cyllid ychwanegol a gytunwyd yn flaenorol â Llywodraeth y DU, o ran £31m ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol yn sgil llifogydd a £0.8bn i adlewyrchu balans y £5.2bn o gyllid a warantwyd ar gyfer mesurau COVID-19, yn cael ei ychwanegu at Floc Cymru eleni.