WQ81914 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/01/2021

A yw'r Gweinidog yn gallu cadarnhau os bu i’r grŵp oedd yn gyfrifol am gynllunio’r cwricwlwm dyniaethau gytuno yn wreiddiol y dylai’r datganiad o’r hyn sy’n bwysig yn y dyniaethau gynnwys hanes Cymru a/neu stori Cymru fel maes neu uned benodol ynddi’i hun?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg | Wedi'i ateb ar 25/01/2021

Mae’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm newydd wedi bod yn gyfres o gamau ar sail cydadeiladu, cydweithredu ac ymgysylltu.

Aethpwyd ati gan grwpiau datblygu’r meysydd dysgu a phrofiad, gan gynnwys grŵp y Dyniaethau, fel rhwydwaith, i ystyried ystod eang o dystiolaeth ac i ddatblygu’r dull gweithredu a manylion canllawiau’r cwricwlwm, gan gynnwys y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Gweithiodd yr ymarferwyr gyda Llywodraeth Cymru, y consortia, Estyn ac eraill a chawsant gefnogaeth amrywiol arbenigwyr i ddatblygu’r cwricwlwm.

Datblygwyd y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar sail set glir o egwyddorion, a datblygwyd y rheini yn eu tro drwy gydweithio ag arbenigwyr cynllunio cwricwlwm. Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig wedi’u llunio yn unol â’r cysyniadau sylfaenol a fynegwyd mewn perthynas â phob Maes, yn hytrach na disgrifio pynciau, disgyblaethau neu feysydd unigol. Roedd angen i’r datganiadau hyn fod yn eang er mwyn:

  • Cwmpasu profiad dysgu pob oed
  • Cwmpasu ystod o brofiadau, gwybodaeth, sgiliau a chysyniadau disgyblaethol
  • Bod yn sail i gynnydd dysgwyr ar hyd eu taith ddysgu
  • Bod yn ymarferol i ymarferwyr a dysgwyr fel cyfres ar draws meysydd y cwricwlwm.

Bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys elfennau gorfodol, gan gynnwys datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad. O fewn maes y Dyniaethau, mae’r datganiadau hyn yn cynnwys:

  • ymwybyddiaeth gyson o stori leol y dysgwyr a stori Cymru
  • dealltwriaeth feirniadol o sut mae cymdeithasau wedi cael eu trefnu, eu strwythuro a’u harwain, yn lleol ac yng Nghymru
  • gallu mynd i’r afael â heriau a chyfleoedd y gorffennol, y presennol a’r dyfodol sy’n wynebu’r dysgwyr, eu cymunedau a Chymru
  • ennyn mewn dysgwyr ymdeimlad o le ac o berthyn, fel sy’n cael ei ymgorffori yn y gair cynefin
  • gwerthfawrogi hunaniaeth, treftadaeth a chynefin

Bydd yn ofynnol i gwricwlwm pob ysgol gynnwys y cysyniadau dysgu hyn. Bydd hanes Cymru, felly, yn orfodol.

Bydd y rhain yn elfennau annatod o gwricwlwm pob ysgol, i bob dysgwr ar bob cam. Ni fydd yn bosibl i gwricwlwm ysgol anwybyddu rôl ganolog a hanfodol unrhyw hanes – ein hanes lleol na’n hanes cenedlaethol. Bydd yn rhaid i gwricwlwm ysgol neu leoliad ei gwmpasu, felly. Os na fydd yn gwneud hynny, ni fydd yr ysgol neu’r lleoliad yn cyflawni ei ddyletswyddau.