WQ81911 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/01/2021

A yw'r Gweinidog yn disgwyl i Gymwysterau Cymru gyflwyno un cymhwyster i asesu'r un continwwm dysgu Cymraeg yn y cwricwlwm newydd arfaethedig?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg | Wedi'i ateb ar 21/01/2021

Ar hyn o bryd, mae Cymwysterau Cymru yn gweithredu rhaglen waith hirdymor ar gyfer pennu cwmpas a datblygu cymwysterau Cwricwlwm i Gymru. Rhwng Tachwedd 2019 a Chwefror 2020, ymgynghorodd Cymwysterau Cymru ar yr egwyddorion lefel uchel a fyddai’n sail i’r arlwy o gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 16 oed yn y dyfodol. Bydd ail gam yr ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar yr ystod o gymwysterau a gyllidir yn gyhoeddus – bydd hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer cymwysterau’r Gymraeg. Caiff yr ymgynghoriad hwn ei gyhoeddi yr wythnos nesaf a’i nod fydd casglu amrywiaeth eang o safbwyntiau i sicrhau bod y cymwysterau yn gydnaws â Cwricwlwm i Gymru ac yn cefnogi ein huchelgais ar gyfer ein dysgwyr.