Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i sefydlu cronfa arbennig ar gyfer canolfannau addysg awyr agored yn debyg i’r cynlluniau sydd ar waith yn yr Alban er mwyn galluogi’r canolfannau i oroesi'r pandemig?
Rwy’n ymwybodol o’r effaith y mae Covid-19 yn ei gael ar y sector addysg awyr agored.
Er mwyn cefnogi busnesau yn y Flwyddyn Newydd, ar 30 Tachwedd cyhoeddodd y Prif Weinidog becyn o gymorth gwerth £340 miliwn yn benodol ar gyfer y sectorau lletygarwch, twristiaeth a chadwyni cyflenwi cysylltiedig. Roedd hyn yn cynnwys £160 miliwn o’r Gronfa Cyfyngiadau Busnes a £180 miliwn o gronfa benodol ar gyfer sector y busnesau lletygarwch a hamdden.
Yn dilyn symud i lefel rhybudd pedwar a chau pob busnes manwerthu wedi’r Nadolig, cafodd y Gronfa Cyfyngiadau Busnes ei chynyddu i £270 miliwn.
Mae’r cyllid yn darparu:
- £270 miliwn o Gronfa Cyfyngiadau Busnes y Gronfa Cadernid Economaidd: I ddarparu cymorth ar gyfer costau gweithredu i hyd at 60,000 o fusnesau yr effeithiodd y cyfyngiadau cenedlaethol arnynt yn sylweddol. Wedi’u cysylltu â’r system ardrethi annomestig.
- £180 miliwn o gymorth penodol i’r sector gan y Gronfa Cadernid Economaidd.
- Parhau gyda Grantiau Dewisol gan yr awdurdodau lleol
Dylai rhan fwyaf o fusnesau gael mynediad hefyd at gymorth penodol sydd ar gael gan Lywodraeth y DU – gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi neu y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunan-gyflogedig – yn amodol ar gyrraedd meini prawf cymhwysedd.
https://www.gov.uk/coronavirus/business-support
Hyd yma mae’r sector addysg awyr agored wedi derbyn £455.5 mil drwy dri cam cyntaf y Gronfa Cadernid Economaidd a bydd y rhai hynny sydd ag eiddo ardrethol hefyd wedi derbyn cyllid o dan y grantiau ardrethi annomestig.
Rwyf wedi gofyn i swyddogion gynnal dadansoddiad i ddeall mwy ar yr effaith ar y sector.