O dan ba amgylchiadau y gall rhywun newid ei swigen gefnogaeth gan gofio y gallai perthynas pobl gyda phartner a ffrindiau newid dros gyfnod o amser?
O dan y rheoliadau cyfyngiadau coronafeirws, os bydd aelwyd yn peidio â bod yn rhan o swigen gefnogaeth, ni chaiff yr aelwyd gytuno i fod yn rhan o swigen gefnogaeth gydag unrhyw aelwyd arall.
Mae’r cyfyngiadau coronafeirws wedi caniatáu i aelwydydd estynedig neu swigod cefnogaeth gael eu newid bob tro y disodlwyd y rheoliadau, gan gynnwys:
- ym mis Medi a mis Hydref, wrth gyflwyno Ardaloedd Diogelu Iechyd Lleol;
- ym mis Tachwedd, ar ôl y cyfnod atal byr;
- ym mis Rhagfyr, yn y cyfnod hyd at y Nadolig; ac
- ar ôl dydd Nadolig.
Ers Dydd Gŵyl San Steffan, dim ond mewn swigen gefnogaeth unigryw y caiff rhywun fod. Roedd swigen newydd yn bosibl Ddydd Gŵyl San Steffan, ond ni ddylai’r swigen honno newid nawr. Pan allwn ni symud i lefel rhybudd 3, bydd modd i bobl ffurfio aelwyd estynedig newydd, ond rhaid i bob swigen gefnogaeth sydd eisoes yn bodoli ar gyfer oedolyn sengl aros yr un fath.
Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu’r gofynion hyn yn rheolaidd, gan gynnwys y gallu i newid swigen gefnogaeth yn sgil newid mewn amgylchiadau. Ysgrifennaf atoch os bydd unrhyw newid pellach.