Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnal ar effaith COVID-19 ar y sector lles anifeiliaid?
Mae fy swyddogion yn Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol wedi bod mewn cysylltiad â’r ddau brif rwydwaith lles anifeiliaid cyffredinol sy’n gweithredu yn y trydydd sector yng Nghymru, sef Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Anwes Cymru. Mae trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt â’r mudiadau hyn gydol y cyfnod.
Mae’r sector ei hun wedi cynnal arolwg i weld yr effeithiau ariannol a gweithredol ar eu haelodau dros y cyfnod a darparwyd gwybodaeth yn gyson i Lywodraeth Cymru. Cytunodd Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru i gasglu a didoli gwybodaeth am y sector lles anifeiliaid yng Nghymru, gan alinio’r cwestiynau â’r rheini a ofynnwyd gan Gymdeithas y Cartrefi Cŵn a Chathod. Mae’r arolwg hwnnw dal ar gael ar wefan Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir y byddai arian ar gael ar gyfer busnesau a’r trydydd sector/elusennau trwy’r cynlluniau penodol hynny. Rydym yn ymwybodol bod cymorth er lles anifeiliaid wedi’i ddarparu trwy gynlluniau amrywiol gan gynnwys y Gronfa Cadernid Economaidd (ERF) sy’n unigryw i Gymru, Cronfa Cadernid y Trydydd Sector a Banc Datblygu Cymru.