WQ81518 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd i reoleiddio'r sector achub ac ailgartrefu anifeiliaid er mwyn diogelu lles anifeiliaid?

Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 19/11/2020

Mae Cod Ymarfer Gorau ar gyfer Sefydliadau Lles Anifeiliaid wedi’i ddrafftio ar sail mewnbwn gan aelodau o Rwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill. Gallwch weld y Cod ar-lein yma https://gov.wales/sites/default/files/publications/2020-09/animal-welfare-establishments-code-of-best-practice.pdf

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwerth gweithio mewn partneriaeth â’r trydydd sector yng Nghymru ac mae cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal ag aelodau o Rwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru.