A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am pa gefnogaeth sydd ar gael i gleifion sy’n dioddef â COVID hir?
Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 10/11/2020
Rwyf wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig ynglŷn â’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd, ac yn parhau i’w cymryd i gefnogi pobl sy’n dioddef effeithiau hirdymor yn eu hadferiad o COVID-19. Yng Nghymru rydym yn canolbwyntio ar ymchwil a mynediad at gymorth adsefydlu sydd wedi’i deilwra ar gyfer anghenion penodol yr unigolyn. Byddaf yn rhoi diweddariadau pellach pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.
https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-covid-hir-effeithiau-covid-19-yn-y-tymor-hwy