WQ81448 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2020

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau, ar sail unrhyw asesiadau sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru, faint yw isafswm ac uchafswm yr elw y gallai cwmni Meridiam ei wneud yn sgil eu partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag addysg?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg | Wedi'i ateb ar 12/11/2020

Roedd y broses gaffael yn profi pob un o’r tri ymgeisydd ar y rhestr fer o ran ansawdd a’r pris a nodwyd yn eu cais. Meridiam gyflwynodd y tendr mwyaf manteisiol yn economaidd, yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015. Nid yw’n gymesur nodi cwestiwn pris yn unig allan o’i gyd-destun gan fod hon yn wybodaeth fasnachol-sensitif, ac nad yw’n rhoi darlun cyflawn o sut y gwnaeth yr holl elfennau o ran pris ac ansawdd ein harwain i benderfynu pa dendr a oedd yn sgorio uchaf ac a oedd felly yn llwyddiannus.