WQ81316 (w) Wedi’i gyflwyno ar 16/10/2020

A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o'r gwariant ar gymorth busnes i'r sectorau diwydiant creadigol canlynol: (i) teledu, ffilm, fideo, radio a ffotograffiaeth; (ii) gwasanaethau TG, meddalwedd a digidol yn y sector creadigol; a (iii) y diwydiant cyhoeddi?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Twristiaeth | Wedi'i ateb ar 28/10/2020

Mae cyfanswm o £12,207,000 wedi ei ymrwymo i gyllideb Cymru Greadigol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/2021 i gefnogi meysydd sectorau blaenoriaeth Cymru Greadigol sef Sgrîn, Digidol a Cherddoriaeth. Mae’r gyllideb hon hefyd yn darparu cyllid craidd Cyngor Llyfrau Cymru i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghyrmu. Mae cyfran o’r swm yma wedi ei defnyddio i ddarparu cyllid brys ar gyfer y sector Sgrîn, Cerddoriaeth Llawr Gwlad, Digidol a Chyhoeddi. Mae £548,000 pellach wedi dod ar gael ar gyfer y cronfeydd brys hyn, gan ddarparu cyfanswm o £1.39 miliwn ar gyfer cronfeydd cymorth y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Hefyd, mae cyllid ar gael i sefydliadau a gweithwyr llawrydd y diwydiannau creadigol yng Nghymru sydd wedi gweld effaith COVID-19, drwy Gronfa Adferiad Diwylliannol Cymru Mae ceisiadau am gymorth y Gronfa Adferiad Diwylliannol yn cael eu prosesu ar hyn o bryd i barhau i gefnogi’r sector drwy’r cyfnod anodd hwn.