WQ81289 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r amser cyfartalog ac ystod yr amser o'r amser byraf i'r hiraf ar gyfer dychwelyd canlyniadau profion Covid-19 yng Nghymru dros y mis diwethaf fel ag yr oedd ar 14 Hydref 2020?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 27/10/2020

Mae profion a gynhelir yng Nghymru yn cael eu prosesu gan y Labordai Goleudy yn ogystal â labordai sy’n cael eu rhedeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bydd yr Aelod yn ymwybodol am y materion sy’n effeithio ar y Labordai Goleudy – materion sydd wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd. Mae’r rhain wedi effeithio ar argaeledd profion a’r amser y mae’n ei gymryd i brosesu profion a darparu canlyniadau.   

Cynhelir profion yng Nghymru ar gyfer amrywiol ddibenion. Mae nifer sylweddol o brofion yn cael eu cynnal at ddibenion cadw gwyliadwriaeth ar iechyd, yn hytrach nag am fod unigolyn wedi cyflwyno gyda symptomau o’r coronafeirws. Mae rhai o’r ffigurau is yn y tabl yn gysylltiedig â phrofion gwyliadwriaeth, lle nad yw mor bwysig bod y profion yn cael eu prosesu’n gyflym.  

Mae’r ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer yr wythnos sy’n dechrau ar 12 Hydref 2020 yn dangos, gan ddibynnu ar y llwybr profi, fod canran y canlyniadau fel a ganlyn:

1 diwrnod calendr yn amrywio o 5.6% i 82.0%.

2 ddiwrnod calendr yn amrywio o 23.8% i 97.6%.

3 diwrnod calendr yn amrywio o 50.1% i 99.3%.

Mae’r ffigurau a ddangosir wedi cael eu mesur o’r dyddiad y cofnodir bod sampl wedi’i gasglu hyd at yr amser yr awdurdodir y canlyniad. Nid ydynt yn dangos pa mor hir y mae’n ei gymryd i unigolyn dderbyn ei ganlyniad o’r adeg y caiff ei brofi.