WQ81288 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2020

A wnaiff y Prif Weinidog (i) grynhoi'r trefniadau diweddaraf ar gyfer adolygu'r cyfyngiadau coronafeirws ar lefelau awdurdod lleol neu yn fwy lleol na hynny a (ii) amlinellu'r trefniadau sydd ar waith i hysbysu pobl sy'n byw yn ardaloedd hynny am gynnydd ai peidio y rheoliadau yn dilyn pob adolygiad?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 26/10/2020

Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r cyfyngiadau a osodir ar ardaloedd diogelu iechyd lleol bob wythnos ac rwyf wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig bob wythnos mewn perthynas â hyn. Mae’r Gell Cyngor Technegol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi amrywiaeth o wybodaeth wyddonol a thechnegol am ledaeniad y coronafeirws yng Nghymru yn rheolaidd – gwybodaeth a ddefnyddir i lywio’r adolygiadau hyn. Caiff y data hyn eu cyfuno â gwybodaeth leol gan y timau rheoli achosion lluosog ym mhob ardal.

Rydym yn gwneud y penderfyniadau ac yn cynnal yr adolygiadau ar y cyd ag arweinwyr awdurdodau lleol a’r timau rheoli achosion lluosog ym mhob ardal. Yn ogystal â dulliau cyfathrebu cenedlaethol a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru, mae ein partneriaid lleol hefyd yn rhannu’r penderfyniadau hyn yn uniongyrchol â phobl yn eu hardaloedd.

Ddydd Gwener, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyfnod atal byr o bythefnos i helpu i ddod â’r feirws o dan reolaeth. Bydd y rheoliadau cenedlaethol hyn yn dirymu’r systemau lleol presennol sydd gennym ar waith.