WQ81265 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2020

A all y Gweinidog rannu’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn a pherfformiad llinell 111 ar gyfer ymholiadau ynglŷn a COVID-19 yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 23/10/2020

Ers i’r pandemig ddechrau ym mis Mawrth 2020, bu cyfanswm o 5,955 o ymholiadau COVID-19 i’r llinell 111 gan bobl sy’n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

O ran y duedd, cafwyd nifer uchel o alwadau yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill, cyn i’r nifer ostwng yn ystod misoedd Mai, Gorffennaf, ac Awst. Bu cynnydd eto yn nifer y galwadau i linell 111 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, o 13 Medi 2020. Fodd bynnag, nid yw’r galw wedi cyrraedd y lefelau a welwyd yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill.

Dylech nodi fod y data hyn yn dod o’r wybodaeth reoli, ac nid ydynt wedi bod drwy unrhyw brosesau craffu.

Mae’r gwasanaeth 111 yn gyffredinol wedi wynebu’r un heriau â gweddill y DU yn ystod yr wythnosau diweddar, gyda chynnydd sylweddol yn yr ymholiadau/ y galw COVID-19. Mae’r gwasanaeth 111 yn recriwtio oddeutu 50 o bobl i ddelio â galwadau, cyfwerth ag amser cyflawn, er mwyn gwella cydnerthedd. Dechreuodd y garfan gyntaf o’r bobl hyn ar eu hyfforddiant yr wythnos yn dechrau 19 Hydref.