Ymhellach i ddatganiad y Gweinidog ynghylch cynlluniau parhad bysiau, a all y Gweinidog ddarparu gwybodaeth bellach ynghylch cyfanswm yr arian a ddarperir i Arriva yn genedlaethol ac a allai'r Gweinidog ddarparu dadansoddiad o ble fyddai'r cyllid hwn wedi mynd fesul etholaeth?
O safbwynt taliadau i gwmnïau unigol, caiff yr wybodaeth hon ei chadw gan y rhanbarthau sy’n gyfrifol am weinyddu’r cymorth. Mae’r wybodaeth hon yn wybodaeth fasnachol-sensitif.
Caiff y cyllid ar gyfer cefnogi gwasanaethau bysiau ei ddyrannu ar sail ranbarthol; nid oes modd ei ddadgyfuno i lefel etholaethol. Y gyllideb a ragwelir ar gyfer pob rhanbarth yw:
Rhanbarth |
Cyllid |
De-ddwyrain Cymru |
£39,339,000 |
De-orllewin Cymru |
£17,410,680 |
Gogledd Cymru |
£21,454,560 |
Powys |
£3,857,760 |
Ceredigion |
£2,529,540 |
Gallai elfennau o’r cyllid amrywio ar sail y galw; o’r herwydd caiff y gwariant gwirioneddol ei gadarnhau ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.