WQ81131 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar statws presennol fel y mae heddiw y canllaw goleuadau traffig a gyhoedwyd yn y ddogfen 'Llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi: dal i drafod'?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 06/10/2020

Nid yw statws y canllaw goleuadau traffig wedi newid ers pan gyhoeddwyd y ddogfen gyntaf. Mae’n parhau i nodi i ba raddau y mae gwahanol agweddau ar gymdeithas ac economi Cymru yn gallu gweithredu yng nghyd-destun newidiol y coronafeirws.