WQ81061 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

Beth yw’r datblygiadau diweddaraf o ran caniatau i feddygfeydd yng Nghymru e-bostio presgripsiwn i fferyllfeydd?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 21/09/2020

Bu llawer o drafod am bresgripsiynau electronig yn ystod y misoedd diwethaf, ac mae'r pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at yr angen am ddull system gyfan.  Mae hwn yn fater yr wyf am ei weld yn cael ei ddatrys yn gyflym ond mae’n bwysig bod hynny’n cael ei wneud yn y ffordd orau i ddiwallu ein hanghenion.  Yn ddiweddar, cytunais i gynnal adolygiad annibynnol o atebion posibl ar gyfer presgribsiynau electronig a throsglwyddo presgripsiynau'n electronig yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae panel adolygu arbenigol wedi'i sefydlu i gefnogi'r adolygiad annibynnol, a bydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Hydref.  Bydd canlyniad yr adolygiad yn cael ei drafod a'i sicrhau gan drefniadau llywodraethiant digidol newydd GIG Cymru, sy'n cael eu rhoi ar waith. 

Ym mis Mawrth rhoddwyd cyngor i feddygon teulu a fferyllfeydd, yn cadarnhau bod rhwydwaith e-bost GIG Cymru yn ddiogel ar gyfer trosglwyddo unrhyw wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth frys am bresgripsiynau, o fewn GIG Cymru.