WQ81037 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/09/2020

A oes yna unrhyw wahaniaeth rhwng y cyfeiriad yng nhgyfrifon blynyddol 2016-17 Llywodraeth Cymru at wariant "gyda chwmnïau Cymreig" a'r cyfeiriadau yng nghyfrifon blynyddol 2017-18 a 2018-19 at wariant "yng Nghymru" o safbwynt cyllid caffael Llywodraeth Cymru fel sefydliad?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 10/09/2020

Nid oes gwahaniaeth rhwng y termau hyn, sydd wedi cael eu defnyddio yn gyfnewidiol yn adroddiadau’r cyfrifon blynyddol. Mae diffiniad y Dadansoddiad o Wariant o Wariant yng Nghymru (neu Wariant gyda Chwmnïau Cymreig) yn seiliedig ar bod y cod post o’r cyfeiriad ar yr anfoneb ar gyfer y cyflenwyr yn perthyn i ardal o Gymru.