A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa fethodoleg sy’n cael ei ddefnyddio i lenwi'r 900 o swyddi athrawon ychwanegol a gaiff eu cyllido yn y swm o £29 miliwn?
Gallaf gadarnhau y dosbarthwyd cyllid yn gynnar ym mis Awst i awdurdodau lleol ar gyfer Recriwtio, Adfer, a Chodi Safonau: y Rhaglen Dysgu Carlam am y flwyddyn ariannol hon, a’u bod hefyd wedi cael manylion penodol eu dyraniadau ar lefel ysgolion.
Rhwng popeth, mae’r gronfa’n dyrannu dros £30 miliwn i ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae ysgolion yn cael £28.4 miliwn (ar gyfer dysgwyr cyn-16), tra bod pob un o’r pedwar rhanbarth yn cael tua £230 mil i gefnogi eu gallu i gydlynu ar lefel uchel y broses o roi’r rhaglen ar waith.
Mae’r cyllid rhanbarthol yn cefnogi cydweithredu a gweithio ar y cyd i gynyddu effaith y grant ysgolion i’r eithaf ar draws partneriaid fel awdurdodau lleol a sefydliadau’r trydydd sector. Mae £4.18 miliwn ar gael i ysgolion hefyd (drwy’r awdurdodau lleol) i ddarparu cyllid ar gyfer cefnogaeth ychwanegol i’r elfen ôl-16 o’r ddarpariaeth mewn ysgolion (dysgwyr ym mlynyddoedd academaidd 12 a 13). Mae’r egwyddorion sy’n berthnasol i’r cyllid yn gyson ar draws yr holl ffrydiau cyllid. Mae’r cyllid wedi’i rannu ar draws blynyddoedd ariannol 2020-21 a 2021-22 oherwydd bod y blynyddoedd ariannol ac academaidd yn croesi ei gilydd.
Fel yr amlinellwyd pan wnaed y cyhoeddiad ynglŷn â’r gefnogaeth ym mis Gorffennaf, mae’r cynllun yn cyfateb i gost cyflogi 600 o athrawon a 300 o staff cynorthwyol ar draws y system. Fodd bynnag, fel y mynegir yn y ddogfen egwyddorion hanfodol (a gyhoeddwyd 24 Awst) Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau: y rhaglen dysgu carlam nid ydym yn dymuno gosod cyfyngiadau ar benaethiaid o ran y ffordd y maent yn mynd ati i benodi ac i ddefnyddio’r capasiti newydd hwn, ac rydym yn sylweddoli y bydd rolau’n amrywio o ysgol i ysgol ac o leoliad i leoliad.
Wrth i’r tymor newydd ddechrau, bydd arweinwyr ac athrawon ledled y system yn asesu anghenion a datblygiad dysgwyr, gan adeiladu ar y cyfnod ailgydio i bawb cyn gwyliau’r haf. Byddant yn defnyddio dechrau’r tymor newydd i gynyddu eu dealltwriaeth o ble y mae dysgwyr arni o ran eu haddysg, ac i fod mewn gwell sefyllfa i ddeall sut y gallant ddefnyddio’r cyllid sydd ar gael i ddarparu cymorth hyfforddi ychwanegol, rhaglenni dysgu personol ac amser ac adnoddau ychwanegol ar gyfer disgyblion mewn blynyddoedd sy’n sefyll arholiadau.
Gan gydnabod nad yw ysgolion yn agored yn ffurfiol yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst, a’u bod wrthi’n penderfynu’n derfynol ar eu cynlluniau ar gyfer y cyllid o £29 miliwn, nid ydym wedi cychwyn ar y broses o fonitro’r cynnydd mewn llenwi rolau sy’n gysylltiedig â’r cynllun hwn. Ar hyn o bryd, nid oes gennym ddata (boed ar sail lawn neu ran amser) ynghylch nifer yr athrawon a staff eraill a gafodd eu recriwtio i gefnogi’r rhaglen hon. Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn ystod mis Medi i ddeall sut y mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn defnyddio’r capasiti ychwanegol hwn; natur y cymorth y maent yn ei greu, a’u cynnydd o ran y gwaith o recriwtio gweithwyr i lenwi rolau ac mewn defnyddio capasiti i gefnogi dysgwyr.
Fel y nodwyd yn y ddogfen egwyddorion, mater i benaethiaid, yn gweithio gyda’u cyrff llywodraethu, awdurdodau lleol a rhanbarthau yw penderfynu beth y maent yn bwriadu’i wneud â’r adnoddau sydd ar gael, a nodi nifer y plant fydd yn derbyn cymorth a’r ffyrdd penodol y bydd staff yn cael eu defnyddio. Byddwn yn gweithio gydag ymarferwyr gydol yr amser hwn i gasglu astudiaethau achos ar gyfer Hwb ac yn rhannu eu profiadau i’w gwneud yn bosibl i benaethiaid gnoi cil ynghylch eu dulliau gweithredu eu hunain.
Gan mai mater i ysgolion, cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol yw recriwtio, bydd hynny’n cael ei wneud ar lefel leol. Fel Llywodraeth, rydym yn gweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i dargedu grwpiau cofrestredig penodol (fel athrawon sydd newydd gymhwyso, athrawon llanw, cynorthwywyr addysgu ac ati) i hyrwyddo’r rhaglen iddynt a’u galluogi i fynegi diddordeb mewn rolau posibl. Byddwn hefyd yn cefnogi’r cynllun gydag ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu ar lefel genedlaethol.
Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, mae bob amser nifer o athrawon sydd newydd gymhwyso yn y system ac ar gael i’w cyflogi. Rydym yn rhagweld y bydd nifer o’r swyddi y bydd y rhaglen yn eu creu yn cael eu llenwi gan y grŵp hwn.
Disgwylir i gyfran bellach o’r swyddi hyn gael eu llenwi gan staff o’r sector athrawon llanw, â llawer ohonynt wedi methu â chael gwaith sefydlog ers i’r ysgolion gau ym mis Mawrth. Mae staff llanw yng Nghymru yn cyflawni nifer o rolau a gall ysgolion neu awdurdodau lleol eu cyflogi’n uniongyrchol. Er nad ydym yn disgwyl i ysgolion ac awdurdodau lleol wneud defnydd diangen o asiantaethau cyflenwi athrawon llanw i lenwi’r swyddi, rydym yn disgwyl y bydd unigolion o’r pwll staff llanw yn cael eu recriwtio.