WQ80944 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/08/2020

O'r cleifion a gafodd drychiad ym Mwrdd Iechyd Prfysgol Betsi Cadwaladr, faint fu farw o fewn 30 diwrnod wedi'r llawdriniaeth neu tra'u bod yn gleifion mewnol, waeth beth oedd yr arbenigedd/ymgynghorydd terfynol adeg eu marwolaeth a) yn y 12 mis diwethaf a b) yn ystod y 12 mis blaenorol?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 27/08/2020

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw gwybodaeth mor fanwl â’r hyn y gofynnwyd amdani oherwydd mai materion gweithredol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r rhain.

Cyhoeddodd y bwrdd iechyd adolygiad o’r gwasanaeth fasgwlaidd ym mis Mai 2020, https://bcuhb.nhs.wales/about-us/health-board-meetings-and-members/health-board-meetings/health-board-meetings/agenda-bundle-health-board-21-5-20-v1-0-public/, sy’n cynnwys yr wybodaeth hon, gan gynnwys cyfraddau trychiadau sydd i’w gweld yn atodiad 18.

At hynny, cyhoeddir adroddiad y Gofrestrfa Fasgwlaidd bob mis Tachwedd/Rhagfyr a gellir ei weld yn https://www.vsqip.org.uk/reports/. Mae’r adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf yn cynnwys data sy’n ymwneud â 2018.