WQ80878 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/07/2020

Ymhellach i'r ymateb i WAQ78295, a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynnydd gwaith y gweithgor dan sylw mewn perthynas â'r premiwm ail gartrefi?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd | Wedi'i ateb ar 05/08/2020

Roedd y gweithgor yn un o bedwar gweithgor o ymarferwyr y dreth gyngor a sefydlwyd i gefnogi gweithredu Protocol y Dreth Gyngor ar gyfer Cymru. Bu’r grŵp yn ystyried materion yn ymwneud â gostyngiadau’r dreth gyngor, esemptiadau a phremiymau a dewisiadau posibl ar gyfer gwella dulliau o gasglu’r dreth gyngor drwy ddefnyddio a gweinyddu’r agweddau hyn o’r system. 

Ystyriodd y grŵp amryw o esemptiadau, gostyngiadau a phremiymau gan gynnwys rhai i fyfyrwyr, eiddo gwag ac ail gartrefi. O ran premiwm ail gartrefi, estynnwyd gwahoddiad i bob awdurdod ddarparu cofnodion eiddo yr oeddent yn credu oedd wedi’u rhestru’n anghywir fel eiddo annomestig. Adolygwyd yr achosion hyn gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio a chanfuwyd eu bod wedi’u rhestru’n gywir. Mae gwahoddiad o hyd i awdurdodau lleol roi gwybodaeth am unrhyw eiddo y maent o’r farn sydd wedi’i restru’n anghywir, a chytundeb y bydd gwybodaeth o’r fath yn cael ei harchwilio gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Cynhaliwyd cyfarfod terfynol y grŵp ym mis Medi 2019, ac yn dilyn y cyfarfod hwn cafodd y gweithgorau eu cymhathu yn y gwaith partneriaeth rheolaidd rhwng Llywodraeth Cymru, CLlLC a rheolwyr refeniw a budd-daliadau llywodraeth leol.