WQ80687 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/06/2020

Yn sgil prisiau isel gwlan, pa darfodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda'r British Wool Board a'r undebau amaethyddol ac a fyddai'n barod i wyntyllu cyfleon tymor hir i ddatblygu ac ychwanegu gwerth i'r adnodd craidd yma?

Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 07/07/2020

Mae fy swyddogion wedi cynnal trafodaethau rheolaidd â rhanddeiliaid drwy’r Grŵp Cydnerthedd Amaethyddol a’r Grŵp Ffocws ar Ddefaid er mwyn monitro’r sefyllfa. Rwyf wedi cytuno i gyfarfod â chynrychiolwyr o British Wool er mwyn trafod yr effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar y diwydiant gwlân. Byddaf yn ystyried yr holl opsiynau a fydd yn helpu i ychwanegu gwerth at wlân, a byddaf hefyd yn annog unigolion sydd â syniadau blaengar i fanteisio ar gymorth lle y bo’n bosibl.